Bangor & Anglesey Peace & Justice Group
Working for a better Wales and a better World
Grwp Heddwch a Chyfiawnder Bangor ac Ynys Môn
Grwp Heddwch a Chyfiawnder Bangor ac Ynys Môn
Dros heddwch, cyfiawnder a hawliau dynol
Ydych chi’n byw ym Mangor neu Sir Fôn, neu myfyrio yn yr ardal? Ymunwch â ni yn y grwp lleol heddwch a chyfiawnder. Rydan ni’n estyn croeso i bawb. Rydan ni’n cyfarfod yn wythnosol i drafod materion cyfoes; rydan ni’n trefnu darlithiau a thrafodaethau cyhoeddus, arddangosfeydd, digwyddiadau codi arian, ffilmiau, gigs, digrifwyr a gwyliau; rydan ni’n lobïo gwleidyddion a’r cyfryngau; rydan ni’n trefnu deisebau a stondinau Stryd Fawr; rydan ni’n gweithredu yn ddi-drais ac yn trefnu protestiadau; rydan ni’n rhwydweithio gyda gweithredwyr eraill mewn sawl feysydd blaengar.
Mae ein hymgyrchoedd diweddar yn eang eu gwmpas ac yn cynnwys:
- cefnogaeth i bobl Gasa a chyfiawnder i Balesteina; boicot nwydddau Israel; cefnogaeth i’r prosiect amaeth parhaol Bustan Qaraaqa ger Beit Sahour, Bethelehem, a sefydlwyd gan cyn-fyfyrwyr Bangor.
- heddwch yn Irác, Irán ac Affganistan
- datrys gwrthdaro yn Swdan, Rwanda a Chongo
- democratiaeth ym Mwrma
- datblygiadau yn America Ladin
- ymatebion dyngarol i drychinebau e.e. Haiti, Pacistán
- ymgyrchu yn erbyn y fasnach arfau
- na i amnewidiad Trident, na i holl arfau niwclear. Rydan ni’n ymgyrchu wrth ochr CND Cymru a Trident Ploughshares. Mae rhai ohonom yn gwrthwynebu ynni niwclear hefyd, ac yn ymgyrchu wrth ochr PAWB (Pobl Atal Wylfa B).
- Rydan ni wedi ymgyrchu dros gyfraith ryngwladol a hawliau dynol, am Fae Guantánamo, am garchariad heb achos a rendition; am hiliaeth; dros hawliau ferched a hawliau lesbiaidd/hoyw/deurywiol/trawsrywiol bydeang; am newid hinsawdd a gwrthdaro; am fasnach deg.
- Rdyan ni wedi cefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol yng Nghymru, e.e. Na i Academi Milwrol Sain Tathan; Na i ddatblygiad awyrennau drone yn Aberporth; Ie i sefydlu Academi Heddwch Cymru; ymgyrch lleo ‘pabïau gwyn’.
Mae ein agenda felly yn agored i unrhyw fater o hawliau dynol, cyfraith ryngwladol a heddwch.